Mae Hannah Stone yn gyn-Delynores i Dywysog Cymru ac fe astudiodd yn Ysgol Gerdd a Drama Guildhall, Llundain, lle graddiodd gyda B.Mus. ac M.Mus. Fel rhan o'i gradd Meistr, derbyniodd le ar gynllun cyfnewid Erasmus yn Universitat Mozarteum, Salzburg, i astudio gyda'r Athro Helga Storck.
Yn ystod ei chyfnod yn y Guildhall cafodd Hannah ei dewis i gynrychioli'r coleg mewn prosiect ar y cyd gyda Cherddorfa Gŵyl Academïau, Singapore. Daeth y prosiect hwn i ben gyda pherfformiad gala agoriadol ar gyfer Gŵyl Sun Singapore yn Theatr Esplanade gyda'r Fonesig Kiri te Kanawa. Yn 2010 dychwelodd Hannah i Gymru i hybu ei hastudiaethau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd, gyda chefnogaeth Ysgoloriaeth Victor Salvi a graddiodd yn 2012.
Mae'n enillydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Ryngwladol Llangollen; roedd Hannah hefyd yn enillydd gwobr fawr yng Nghystadleuaeth Franz Joseph Reinl yn Vienna, Cystadleuaeth Telyn Camac yn Llundain a'r Gystadleuaeth Telyn Ryngwladol yng Nghaernarfon.
Perfformiodd Hannah mewn nifer o leoliadau nodedig gan gynnwys Canolfan y Barbican, LSO St Luke's, St John's Smith Square, Amgueddfa Llundain, y Neuadd Gyngerdd Genedlaethol yn Nulyn, Neuadd Dewi Sant a Chanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd. Yn 2010 penodwyd Hannah yn brif delynores gyda Cherddorfa Gwyl Schleswig Holstein a theithio o gwmpas Ewrop. Mae hi wedi perfformio fel unawdydd gwadd gyda cherddorfeydd yn cynnwys Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Sinfonia Cymru, Cerddorfa Gyngerdd RTÉ, Cerddorfa Siambr Lloegr a Cherddorfa Philharmonic Borusan, Istanbul.
Mae Hannah wedi perfformio ar gyfer aelodau o'r Teulu Brenhinol ar sawl achlysur gan gynnwys perfformiadau yn ystod taith Jiwbilî Diemwnt y Frenhines trwy Gymru. Yn ystod Cinio Cynhadledd NATO yng Nghastell Caerdydd yn 2014, perfformiodd Hannah ar gyfer y cynadleddwyr a oedd yn cynnwys Cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, Canghellor yr Almaen, Angela Merkel a Chyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, David Cameron.
Rhoddodd ddatganiadau yng Ngŵyl Ryngwladol Caeredin, Gŵyl Litchfield, Gŵyl Kings Lynn, Kings Place, Llundain ac yn y Capel Brenhinol, ym Mhalas Hampton Court. Rhoddodd Hannah berfformiadau Première Byd o 'Dawns Llanelwy' gan Karl Jenkins yn 2012 ac ‘Amaterasu’ gan Gareth Glyn yn 2015 yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru. Dramor, mae hi wedi rhoi datganiadau yn yr Eidal, Tokyo a Melbourne.
Mae ei hymddangosiadau teledu yn cynnwys ‘Nadolig Bryn Terfel’, ‘Carolau Llandudno’, ‘Noson Lawen’ a ‘Dechrau Canu Dechrau Canmol’ ar gyfer S4C ac mae hi wedi bod yn westai ar ‘In Tune’ i BBC Radio 3. Mae Hannah i'w chlywed ar recordiad Catrin Finch, ‘Lullabies’, ar y label Deutsche Grammophon.
Yn 2016, perfformiodd Hannah ddatganiadau yn Toronto a Vancouver ac mae ei pherfformiadau diweddaraf yn cynnwys Gŵyl Verbier, ‘Gŵyl y Llais’ Caerdydd, cyngerdd ‘Alison Balsom a’i Ffrindiau’ yn Neuadd Frenhinol Albert a gwasanaeth coffa i’r Arglwydd Snowdon yn Eglwys St. Margaret’s, Abaty Westminster.
Rydym yn diweddaru’n bywgraffiadau yn gyson, felly cysylltwch â ni am y fersiwn ddiweddaraf, os gwelwch yn dda.