Bywgraffiad Artist

Galeri Delweddau

Jeffrey Howard

Cyfeilydd

Argraffu

Rheolwr Artist: Sioned Jones sioned.jones@harlequin-agency.co.uk


Mae Jeffrey Howard yn gyfeilydd, pianydd, organydd, trefnydd, répétiteur a hyfforddwr lleisiol sydd wedi gweithio gydag artistiaid byd enwog o bob genre, yn cynnwys Syr Bryn Terfel, Nuccia Focile, y Fonesig Shirley Bassey a Michael Ball. Yn raddedig o Goleg Prifysgol Cymru, Caerdydd a'r Royal Academy of Music, Llundain, mae'n mwynhau perthynas hirsefydlog gydag Opera Cenedlaethol Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac Academi Llais Ryngwladol Cymru ac mae galw mawr am ei drefniannau lleisiol a cherddorfaol ar gyfer cyngherddau, recordiau a'r cyfryngau darlledu. Derbyniodd Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2019.

Ganed Jeffrey Howard yng Nghaerdydd ac astudiodd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Caerdydd ac yn y Royal Academy of Music, Llundain.

Mae Jeff yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth yng Ngholeg St John’s, Caerdydd a Chadeirlan Fetropolitan Caerdydd. Mae’n parhau i ddilyn gyrfa fel organydd, pianydd, canwr, hyfforddwr ac arweinydd ac mae Jeff wedi cyfeilio i gantorion rhyngwladol yn cynnwys Syr Bryn Terfel, Syr Willard White, Dennis O'Neill, Nuccia Foccile, Rebecca Evans, Alfie Boe, Wynne Evans, Michael Ball, Shân Cothi, Katherine Jenkins, Jason Howard ac yn fwy anffurfiol, y Fonesig Shirley Bassey.

Mae’n berfformiwr rheolaidd mewn neuaddau cyngerdd ac eglwysi cadeiriol ledled y DU ac Ewrop, yn cynnwys y Royal Albert Hall, Royal Festival Hall, Wigmore Hall, Eglwys Gadeiriol St Paul’s, Capel St George’s yn Windsor, Notre Dame de Paris a’r Goethe Institute ym Mrwsel. Mae ei berfformiadau concerto yn cynnwys concerti i’r piano gan Beethoven, Shostakovitch a Rachmaninov.

Mae Jeff wedi gweithio fel arweinydd a threfnydd gyda cherddorfeydd yn cynnwys y Royal Philharmonic Orchestra, Royal Liverpool Philharmonic Orchestra, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, City of Birmingham Symffony Orchestra, Cerddorfa Symffoni Budapest ac mae’n perfformio’n aml fel unawdydd allweddell i Syr Karl Jenkins. Mae ei gomisiynau diweddaraf yn cynnwys trefniannau Ffanffer ac Emyn y Pasg i Eglwys Gadeiriol Genedlaethol Washington, trefnu’r sioe gerdd newydd Tiger Bay ar gyfer Canolfan Mileniwm Cymru a Capetown Opera, trefniannau corawl i Gorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, Songs of Praise, S4C ac unawdwyr recordio yn cynnwys Syr Bryn Terfel ar gyfer Deutsche Grammophon a Trystan Llŷr ar gyfer Universal.

Fel cyfeilydd, canwr a threfnydd i Only Men Aloud, bu Jeff ar daith drwy’r DU ddwywaith yn 2009 a rhyddhaodd ddwy albwm gyda nhw ar label Universal. Paratôdd nifer o drefniannau ar gyfer eu hail albwm, 'Band of Brothers', ar label Universal a enillodd wobr Classical Brit yn 2010.

Dros y pum-mlynedd-ar-hugain diwethaf, mae Jeff wedi bod yn hyfforddwr llais yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru ac Opera Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Academi Llais Rhyngwladol Cymru ac ar y Cwrs Theatr Cerdd yn CBCDC. Mae hefyd wedi bod yn athro llais ym Mhrifysgolion Caerdydd a Bryste.

Mae Jeff yn Gyfarwyddwr Cerdd Côr Cambrensis, Côr 200 o leisiau St David’s Praise ac yn gyn-arweinydd Côr Meibion Treorci. Gwnaed Jeff yn Gydymaith o’r Royal Academy of Music am ei waith i gerddoriaeth gorawl yn 2018 a derbyniodd Wobr Joseph Parry am ei wasanaeth i gerddoriaeth yng Nghymru gan Urdd Cerddoriaeth Cymru. Derbyniodd Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig  yn Rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2019.


Rydym yn diweddaru’n bywgraffiadau yn gyson, felly cysylltwch â ni am y fersiwn ddiweddaraf, os gwelwch yn dda.

Concerts & Recitals

Welsh Musical Theatre Young Singer of the Year, 2007
News Wales
The three adjudicators, Stephanie Benavente, Claire Hammacott and Rosamund Shelley .... also praised the outstanding support given to each artiste by guest accompanist, Jeffrey Howard.
Hay-on-Wye
The Guardian
The bright, strong voices of Tim Rhys-Evans's choir was matched by their accompanist Jeffrey Howard's lush arrangements.

This Artist Biography was last updated on 31 July 2023. It is our policy to update biographies every six months. If this information is to be used after 31 January 2024 please contact us and we shall be delighted to supply you with the latest version by return.