Mae Patrick Rimes yn canu’r ffidil, y fiola, mae’n bibydd, yn gyfansoddwr ac yn drefnydd cerddoriaeth sydd wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Mae’n hanu o Fethesda yng Ngogledd Cymru, ac mae ei arddull wedi ei gwreiddio yn nhraddodiad arbennig y ffidil yn yr ardal ond mae’n tynnu ar ystod eang o ddylanwadau eraill hefyd, o gerddoriaeth gerddorfaol i jazz a bebop.
Wedi dechrau dysgu’r ffidil yn 7 oed, denwyd Patrick yn gyflym i’r sîn fywiog o sesiynau cerddoriaeth draddodiadol a gweithdai ym Mangor, ochr yn ochr â’i astudiaethau offerynnol mwy ffurfiol gydag athrawon clasurol. Cafodd ei ddewis ddwywaith yn bencampwr iau y ffidil yng Nghymru, ac mae’n dal i fod yr unig un i ennill gwobr y Rhuban Glas yn Eisteddfod Môn am berfformiad cerdd traddodiadol yn hytrach na chlasurol.
Dechreuodd arwain pan oedd ym Mhrifysgol Leeds, yn arwain Cerddorfa Symphoni’r Brifysgol ar deithiau llwyddiannus i Ffrainc, Yr Almaen a Sbaen ac yn 2014 roedd yn un o gyd-sefydlwyr Camerata Gogledd Cymru. Mae’r gerddorfa siambr nwyfus yma yn ceisio rhoi llwyfan i gerddorion ifanc i chwilio i ben draw eu sgiliau cerddoriaeth siambr, yn ogystal â bod yn gam gwerthfawr ar y ffordd i chwarae’n broffesiynol. Mae cryn dipyn o alw ar Patrick fel athro gyda Trac (Sefydliad cerddoriaeth draddodiadol Cymru) a Clera (Cymdeithas offerynnau traddodiadol Cymru) yn rhoi gweithdai a gwersi rheolaidd ar arddull, repertoire a sgiliau trefnu. Mae’n gweithio’n rheolaidd ar lwyfannau clasurol a cherddoriaeth gynnar, yn canu’r fiola i’r Pedwarawd Cambrian ac yn chwarae’n aml fel aelod o’r Essex Baroque Orchestra. Ymddangosodd fel unawdydd fiola gyda’r Leeds Baroque Orchestra a gyda’r John Jenkins Ensemble ar fiola cyfnod dadeni.
Mae Patrick yn parhau i chwilio am ffordd o blygu, ac yn y pen draw i dorri’r canfyddiad o ffin rhwng cerddoriaeth gwreiddiau a genres eraill. Fel un o’r pump aelod o’r grŵp gwerin arloesol Calan, mae wedi recordio tri albwm stiwdio, ac wedi gosod cerddoriaeth Cymru ar y map yn rhai o wyliau pwysicaf Lloegr yn cynnwys Caergrawnt, Sidmouth a Cropredy, yn ogystal â theithio’n rheolaidd drwy Ewrop ac Unol Daleithiau America. Mae’r cydweithrediad ffrwythlon gyda band Cerys Matthews wedi mynd a’u hasiad unigryw o gerddoriaeth a gafodd ei ddylanwadu gan Gymru ac America i lwyfan y World Music Expo, y Nuyorican Poets Cafe yn Efrog Newydd a Proms y BBC. Yn 2014 rhyddhawyd ei waith cyntaf fel Cyfarwyddwr Cerdd ar deledu gyda’i gydweithio llwyddiannus gyda Bryn Terfel a dewis o artistiaid gwadd ar gyfer 'Nadolig Bryn Terfel' i S4C. Dilynwyd hyn gan 'Bryn Terfel - Gwlad y Gân' i S4C yn 2016.
Bu Patrick yn rhan o nifer o brosiectau cyffrous yn 2015 gan gynnwys dwy daith i UDA gyda Calan, 'Beyond Borders' i PRSf a 'Cylch Canu: Song Chain' i Theatr Mwldan. Yn 2016, bu Patrick yn curadu gŵyl cerddoriaeth werin Canolfan Mileniwm Cymru, 'Calan Mai', perfformio darn newydd o waith ar gyfer y stori 'The King, The Cat & The Fiddle' yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd a theithio o amgylch y DU gyda Calan.
Rydym yn diweddaru’n bywgraffiadau yn gyson, felly cysylltwch â ni am y fersiwn ddiweddaraf, os gwelwch yn dda.