Astudiodd Paul Bateman y piano, organ, canu a cello yn y Guildhall School of Music yn Llundain, a dechreuodd ei yrfa gerddorol fel cyfeilydd, cerddor siambr a répétiteur opera.
Yn 2018, cafodd ei apwyntio fel Prif Arweinydd y National Symphony Orchestra. Mae e hefyd wedi arwain recordiadau gyda’r Royal Philharmonic, Philharmonia, London Symphony, Munich Symphony, Vienna Symphony, City of Prague Philharmonic a chyngherddau gyda cherddorfeydd y BBC Concert, Malmo Symphony, Seville Symphony, Royal Liverpool Philharmonic, Royal Scottish National, Dallas Symphony, Russian National, Tokyo Philharmonic a Cherddorfa Ulster.
Paul oedd yn gyfrifol am arwain a threfnu’r gerddoriaeth ar gyfer albymau Lesley Garrett A Soprano in Hollywood ac A North Country Lass ac mae ei drefniannau i’w clywed yn aml ar ei rhaglenni teledu.
Mae’n arwain cyngherddau cerddoriaeth ffilm ledled y byd ac wedi recordio nifer o albymau cerddoriaeth ffilm ar gyfer Silva Screen Records ym Mhrague. Hyd yma mae wedi recordio dros ugain o albymau cerddoriaeth ffilm, gan gynnwys dwy gyfrol o sgoriau ffilm Hitchcock, albymau o gerddoriaeth Bernard Herrmann, Maurice Jarre, John Williams ac Ennio Morricon, a chasgliadau o waith Korngold, Steiner a Tiomkin. Mae ei disgyddiaeth yn cynnwys dros 70 o recordiadau, ac mae llawer ohonynt i’w glywed yn ddyddiol ar Classic FM. Fe wnaeth arwain Cerddorfa’r Philharmonia ar yr albwm Idylls and Elegies – sy’n cynnwys recordiad newydd o Goncerto Ffidil John Jeffreys.
Gwnaeth Paul ei ymddangosiad cyntaf yng Ngŵyl Faenol Syr Bryn Terfel yn 2002 ac fe’i gwahoddwyd yn nol yn 2002. Arweiniodd y Norwegian Radio Orchestra yng nghyngherddau’r Nobel Peace Prize yn Oslo rhwng 2000-2002, gan gyfeilio i lu o artistiaid rhyngwladol, gan gynnwys Syr Bryn Terfel, Barbara Hendricks, Jessye Norman, Santana a Syr Paul McCartney.
Wedi arwain cyngherddau’r ‘Filmharmonic’ a ‘Film Music Gala’ am ddeg mlynedd yn olynol, mae perthynas clos yn bodoli rhwng Paul â Cherddorfa’r Royal Philharmonic. Yn ogystal ag arwain nifer o gyngherddau yn y DU a thaith o amgylch Corea, mae hefyd wedi recordio dau ‘Filmharmonic’ gyda’r gerddorfa ar gyfer Sony Classics - recordiad a oedd yn cynnwys y ffidlwyr Eijin Nomura a Vanessa-Mae.
Mae wedi arwain recordiadau o’i waith ei hun gyda’r LSO a’r RPO i Sarah Brightman ac yn perfformio’n aml gyda’r gantores mewn cyngherddau ledled y byd. Yn 2009, 2010 a 2014 arweiniodd y Malta Philharmonic Orchestra yng nghyngherddau haf Joseph Calleja yn Malta, y mwyaf diweddar gyda Syr Bryn Terfel fel gwestai gwadd.
Ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012, bu'n arwain cyngerdd a ddaeth â chorau o bum cyfandir at ei gilydd i berfformio comisiwn o waith newydd gan Syr Karl Jenkins – The Hero’s Journey yn y Royal Festival Hall.
Yn 2013, dechreuodd berthynas ffrwythlon rhwng Paul a Deutsche Grammophon pan fu Paul yn gweithio fel trefnydd ar albymau Piotr Beczala a Daniel Hope. Comisiynwyd i gyfansoddi suite ar gyfer ffidil a cherddorfa yn seiliedig ar ganeuon Kurt Weill a suite o ganeuon Gershwin. Ym mis Tachwedd 2013 bu'n arwain José Carreras mewn cyngherddau yn Siapan.
Mae ei albymau diweddar gyda’r RPO a’r LSO yn cynnwys cerddoriaeth Oliver Davis (Flight, Dance and Liberty) a recordiad newydd gyda Sarah Brightman. Bu hefyd yn arwain ar albymau début y sopranos Joanne McGahon a Margaret Keys gyda’r City of Prague Philharmonic.
Rydym yn diweddaru'n bywgraffiadau yn gyson, felly cysylltwch â ni am y fersiwn ddiweddaraf, os gwelwch yn dda.