Bywgraffiad Artist

Galeri Delweddau

'Caro Mio Ben', Giuseppe Giordani

'Ar Waith Ar Daith', S4C Highlights/ Uchafbwyntiau S4C

'Rhywle' (Alice in Wonderland), Danny Elfman at/ yn Gŵyl Gobaith

'Cofia Fi' (The Phantom of the Opera), Andrew Lloyd Webber at/ yn Gŵyl Gobaith

'Angel'

Shân Cothi

Soprano

Argraffu

Rheolwr Artist: Sioned Jones sioned.jones@harlequin-agency.co.uk

Gwefan: http://www.shancothi.co.uk/


Mae Shân Cothi yn bersonoliaeth adnabyddus yng Nghymru, yn berfformwraig amryddawn mewn cerddoriaeth glasurol a sioeau cerdd, yn actores brofiadol a chyflwynwraig deledu a radio.

Yn 2014 fe wnaeth Shân ei début yn rôl Mrs Lovett yn Sweeney Todd, gyda Bryn Terfel yn y brif ran, yn Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen ac yn 2015 fe wnaeth dirprwyo Emma Thompson yn y rôl i English National Opera. I ddathlu 10fed pen-blwydd Canolfan Mileniwm Cymru ym mis Medi 2015, perfformiodd Shân rôl y feistres hud chwedlonol Ceridwen yn Ar Waith Ar Daith - digwyddiad awyr agored ysblennydd llawn hud a lledrith a dros 700 o berfformwyr - ym Mhlas Roald Dahl ym Mae Caerdydd. Mae ei phersonoliaeth befriog a'i gallu i gyfathrebu gydag unrhyw gynulleidfa yn ei gwneud yn unawdydd delfrydol mewn unrhyw fath o gyngerdd. Rhyddhawyd ei hail albwm hir-ddisgwyliedig, Paradwys ym mis Medi 2015 ar y Label Acapela.

Mae Shân Cothi yn bersonoliaeth adnabyddus yng Nghymru, yn berfformwraig amryddawn mewn cerddoriaeth glasurol a sioeau cerdd, yn actores brofiadol a chyflwynwraig deledu a radio.

Dechreuodd ei gyrfa fel athrawes cerdd, ond wedi ennill y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1995, cafodd ei hysbrydoli i droi’n gantores broffesiynol.

Yn 2000, castiwyd Shân yn rhan Carlotta yng nghynhyrchiad Andrew Lloyd Webber o The Phantom of the Opera a bu’n perfformio’r rhan am bymtheg mis yn Theatr ei Mawrhydi yn y 'West End', Llundain. Yn 2014 gwnaeth Shân ei début yn rôl Mrs Lovett yn Sweeney Todd, gyda Syr Bryn Terfel yn y brif ran, yn Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen ac yn 2015, dirprwyodd Emma Thompson yn y rôl i English National Opera. I ddathlu 10fed penblwydd Canolfan Mileniwm Cymru ym mis Medi 2015, perfformiodd Shân rôl y feistres hud chwedlonol Ceridwen yn Ar Waith Ar Daith - digwyddiad awyr agored ysblennydd llawn hud a lledrith a dros 700 o berfformwyr - ym Mhlas Roald Dahl, Bae Caerdydd. 

Yn dilyn rhyddhau ei halbwm cyntaf, Passione gyda Cherddorfa Siambr Genedlaethol Cymru ar label Sain yn 2005, cafodd fideo hyrwyddo Caro Mio Ben, a recordiwyd yn Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ei dyfarnu 'The Most Watched Video'  ar deledu Classic FM. Rhyddhawyd ei hail albwm hir-ddisgwyliedig, Paradwys ym mis Medi 2015 ar label Acapela, a chyrhaeddodd rif 26 yn siart Classic FM a rhif 18 yn y siartiau clasurol. Yn dilyn hyn, aeth Shân ar daith i hyrwyddo’r albwm mewn capeli a chanolfannau ar hyd a lled Cymru.

Mae Shân yn wyneb cyfarwydd ar deledu Cymraeg. Gwnaeth Shân ei début actio teledu yn chwarae rhan Davina Roberts yn y gyfres ddrama lwyddiannus, Con Passionate ar S4C ac fe'i henwebwyd yn y categori 'Newydd-ddyfodiad Gorau' yng ngwobrau BAFTA Cymru 2006. Cafodd ei chyfres deledu gerddorol ar S4C wobr BAFTA Cymru a'i henwebu ar gyfer y Rhaglen Gerddorol Orau yng Ngŵyl Montreux. Mae Shân wedi cyflwyno nifer o gyfresi teledu i S4C gan gynnwys Bro, lle'r oedd hi a'i chyd-gyflwynydd Iolo Williams yn teithio Cymru yn dysgu am wahanol ardaloedd a chyfres Y Sipsiwn lle dilynodd Shân hen lwybr y Romani Cymreig mewn carafán sipsiwn.

Mae Shân yn farchoges frwd. Yn 2012, ffilmiodd y rhaglen ddogfen Cheltenham Cothi, lle dilynwyd ei hyfforddiant i fod yn joci cystadleuol yn Derby Elusen Dydd Sant Padrig yn Cheltenham. Yn 2013 dringodd Fynydd Kilimanjaro i gefnogi Canolfan Ganser Felindre ac elusen Amser Justin Time, elusen a sefydlwyd gan Shân yn 2008 i godi ymwybyddiaeth o Ganser y Pancreas.

Ym Mehefin 2015, i nodi Diwrnod Cerddoriaeth y BBC, bu Shân yn rhan o sefydlu record byd newydd fel un hanner o ddeuawd oedd 7,000 o filltiroedd ar wahan – y pellter mwyaf rhwng pobl yn canu deuawd. Trwy gyswllt byw, perfformiwyd ‘Calon Lân’ gan Shân a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yng Nghaerdydd ag Andres Evans yn y Wladfa a ddarlledwyd yn fyw ar BBC Radio Cymru, BBC Radio Wales a BBC Radio 3.

Ymhlith uchafbwyntiau ei chyngherddau mae ‘Broadway to the Bay’ yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, cyngerdd a darllediad ’10 Difa’ o Venue Cymru Llandudno ar gyfer S4C, Noson Big Band yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni a Chyngerdd Dathlu 10 mlwyddiant Amser Justin Time ym Mhafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid.

Mae Shân yn cyflwyno rhaglen foreol ddyddiol yn ystod yr wythnos ar BBC Radio Cymru o’r enw Bore Cothi.


Rydym yn diweddaru’n bywgraffiadau yn gyson, felly cysylltwch â ni am y fersiwn ddiweddaraf, os gwelwch yn dda.

Arwel Hughes Dewi Sant
Bach Wachet Auf!
Brian Hughes Y Pren Planedig
Britten Les Illuminations
Fauré Requiem
Handel Samson
Handel Messiah
Handel Saul
Haydn Creation
Haydn Maria Theresa Mass
Lloyd Webber Requiem
Mendelssohn Hymn of Praise
Mendelssohn Elijah
Mozart Requiem
Arwel Hughes
Dewi Sant
Bach
Wachet Auf!
Brian Hughes
Y Pren Planedig
Britten
Les Illuminations
Fauré
Requiem
Handel
Samson
Handel
Messiah
Handel
Saul
Haydn
Creation
Haydn
Maria Theresa Mass
Lloyd Webber
Requiem
Mendelssohn
Hymn of Praise
Mendelssohn
Elijah
Mozart
Requiem
Andrew Lloyd Webber The Phantom of the OperaCarlotta
Bizet Les Pêcheurs de Perles Leila
Bizet CarmenTitle Role
Donizetti L'Elisir d'AmoreAdina
Janáček Kátya Kabanová Feklusa
Lehár Die Lustige WitweValencienne
Mal Pope Amazing GraceMary Roberts
Mozart Le nozze di FigaroBarbarina
Smetana The Bartered BrideMarenka
Sondheim Sweeney ToddMrs Lovett
Verdi Un Ballo in MascheraOscar
Andrew Lloyd Webber
The Phantom of the Opera
Carlotta
Bizet
Les Pêcheurs de Perles
Leila
Bizet
Carmen
Title Role
Donizetti
L'Elisir d'Amore
Adina
Janáček
Kátya Kabanová
Feklusa
Lehár
Die Lustige Witwe
Valencienne
Mal Pope
Amazing Grace
Mary Roberts
Mozart
Le nozze di Figaro
Barbarina
Smetana
The Bartered Bride
Marenka
Sondheim
Sweeney Todd
Mrs Lovett
Verdi
Un Ballo in Maschera
Oscar

Concerts & Recitals

Title Role in a concert performance of Carmen
Western Mail
Perfectly cast in the title role of the self-confident, cynical gypsy siren, Cothi's full-blooded soprano voice contrasted beautifully with the more ethereal voice of her romantic rival Michaela. Cothi's acting truly animated her singing rather than merely illustrating it. She sang the aria 'Love is just like a little bird' with bravura that occasionally revealed flickers of more idealistic longing.

This Artist Biography was last updated on 31 July 2023. It is our policy to update biographies every six months. If this information is to be used after 31 January 2024 please contact us and we shall be delighted to supply you with the latest version by return.