Bywgraffiad Artist

Galeri Delweddau

Caradog Williams

Cyfeilydd

Argraffu

Rheolwr Artist: Sioned Jones sioned.jones@harlequin-agency.co.uk


Astudiodd Caradog, sy'n raddedig o Brifysgol Rhydychen, cyfeiliant piano yn y Coleg Cerdd Frenhinol, Llundain fel Ysgolor o'r 'Associated Board'. Mae wedi cyfeilio i unawdwyr rhyngwladol gan gynnwys Syr Bryn Terfel, Gwyn Hughes Jones, Rebecca Evans, Elin Manahan Thomas a Syr Willard White. Mae wedi gweithio fel répétiteur ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru, Academi Llais Rhyngwladol Caerdydd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle mae wedi gweithio gydag athrawon ac arweinwyr blaenllaw ym maes opera gan gynnwys y Fonesig Kiri Te Kanawa, Richard Bonynge, Dennis O’Neill a Carlo Rizzi. Caradog oedd cyfeilydd swyddogol pedair Gŵyl Gorawl olaf Cymdeithas Corau Meibion yn y Royal Albert Hall, Llundain ac wedi bod ar daith gyda'r Gymdeithas i Rwsia a Dwyrain Ewrop. 

Mae Caradog hefyd yn gyfansoddwr a threfnydd medrus a gall rhai o'i gyfansoddiadau a threfniadau gael eu clywed ar ddau albwm Tri Tenor Cymru. 

Pianydd llawrydd yw Caradog Williams a’i gartref yng Nghaerdydd. Tra’n ddisgybl yn Ysgol Gyfun y Strade, Llanelli, astudiodd y piano gyda D. Hugh Jones FRCO, ac yn dilyn graddio mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Rhydychen, astudiodd Cyfeilio ar y Piano yn y Royal College of Music dan Roger Vignoles a John Blakely, lle'r oedd yn Sgolor yr Associated Board.

Mae Caradog wedi gweithio fel répétiteur ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru, Academi Llais Rhyngwladol Caerdydd a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle mae wedi gweithio gydag athrawon ac arweinwyr blaenllaw ym maes opera gan gynnwys y Fonesig Kiri Te Kanawa, Richard Bonynge, Dennis O’Neill a Carlo Rizzi.

Ar y llwyfan cyngerdd mae Caradog wedi cyfeilio i Syr Bryn Terfel, Gwyn Hughes Jones, Rebecca Evans, Elin Manahan Thomas a Syr Willard White ac yn ymddangos yn rheolaidd gyda John Owen Jones, Only Men Aloud a Tri Tenor Cymru. Y mae wedi teithio gyda Tri Tenor Cymru dair gwaith i Ogledd America ac ef yw’r cyfeilydd a’r trefnydd ar eu dau albwm.


Rydym yn diweddaru’n bywgraffiadau yn gyson, felly cysylltwch â ni am y fersiwn ddiweddaraf, os gwelwch yn dda.

This Artist Biography was last updated on 3 September 2018. It is our policy to update biographies every six months. If this information is to be used after 3 March 2019 please contact us and we shall be delighted to supply you with the latest version by return.