News

'Llais Cymru' yn yr Alban!

4th September, 2015

Bydd y tenor Cymreig Trystan Llŷr Griffiths yn gwneud ei ymddangosiad operatig proffesiynol cyntaf fel Ferrando yn Cosi fan tutte ar daith Scottish Opera yn ystod yr Hydref.  

Enwyd Trystan yn 'Llais Cymru' yn 2012 gan Decca Records o chwiliad o dros 600 o gantorion ar gyfer cyfres i S4C. Mae hefyd yn un o'r cyntaf i dderbyn gwobr Astudio o Sefydliad Bryn Terfel. 

Mae gwobrwyon eraill yn cynnwys Gwobr Ian Stoutzker yn 2014, a roddir yn flynyddol i gerddor mwyaf blaenllaw Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru; Gwobr Ganu Bruce Millar Gulliver 2014, Ysgoloriaeth Tywysog Cymru, Coleg Brenhinol Cymru yn 2013. Gwobr Canwr ifanc y flwyddyn Dunraven yn 2013, Gwobr Canwr Ifanc y Flwyddyn MOCSA yn 2012, Gwobr Sybil Tutton yn 2012 ac Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2011.

"Rwyf wedi bod yn gweithio tuag at y foment hon ers cymaint ac nawr ei bod wedi cyrraedd mae dweud mod i'n 'teimlo'n gyffrous' yn dweud dipyn llai na'r gwir!"

Wedi graddio o Brifysgol Cymru y Drindod/Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, cwblhaodd Trystan ei radd Meistr Celfyddyd Lleisiol yn y Royal Academy of Music yn Llundain. Wedi hynny cwblhaodd gwrs ôl-radd mewn Perfformio Opera yn Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd ac yn ddiweddar cwblhaodd ei astudiaethau fel hyfforddai yn y National Opera Studio yn Llundain, lle cafodd gefnogaeth hael Opera Cenedlaethol Cymru i gynnal ei astudiaethau. 

"Wedi perfformio rhan Ferrando ychydig dros flwyddyn yn ôl yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae'r rhan yn dal yn ffres yn y meddwl."

"Y tro yma mi fyddaf yn perfformio yn Saesneg ac mi fydd hyn yn eitha her gan fod yr Eidaleg yn dal mor fyw yn y cof."

"Fy hoff olygfa yw'r chwechawd o'r Act gyntaf pan mae Ferrando a Guglielmo yn dychwelyd wedi eu gwisgo fel Albaniaid i geisio ennill serch y chwiorydd Dorabella a Fiordiligi. Hon yw fy hoff olygfa gan mai dyma'r tro cyntaf mae'r gynulleidfa'n cael gweld y bechgyn yn eu gwisgoedd hurt a diawch ma'n nhw'n ymddangos gyda bang!" 

Ond gallai fod wedi bod yn wahanol i'r canwr ifanc dawnus yma:

"Tra mod i'n sylweddoli mod i'n ffodus i fod yn y sefyllfa rwy ynddi heddiw, wnes i ddim cychwyn gan ddisgwyl bod yn ganwr. Yn wreiddiol roeddwn i am fod yn saer. Cyn mynd i'r Brifysgol roeddwn yn osodwr drysau garej diwydiannol ond mae canu wastad wedi bod yn rhan o 'mywyd."

"Dechreuais gystadlu mewn eisteddfodau lleol, yn yr Urdd a'r Genedlaethol o oedran ifanc ac fe gyfrannodd hyn yn sylweddol imi fod yn ganwr proffesiynol. Heb y cystadlaethau hyn, fydden i ddim yn y sefyllfa yma heddiw; rwy'n ddiolchgar mod i'n gallu creu gyrfa o'r math hwn o waith."

A beth yw cynlluniau Trystan dros yr ychydig fisoedd nesaf?

"Byddaf yn rhyddhau fy albwm cyntaf ar label Sain ym Mis Tachwedd. Mi fyddaf yn cymryd rhan mewn cyngherddau hyd at y Nadolig ac yna yn y flwyddyn newydd mi fyddaf yn dirprwyo rhan Nemorino, sy'n digwydd bod yn un o'm hoff rannau, gydag Opera North yn Leeds.

Mae cynhyrchiad Scottish Opera o Cosi fan tutte yn agor ar ddydd Iau, Medi 24ain yn y Macrobert Arts Centre, Stirling. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y perfformiadau.


https://www.scottishopera.org.uk/our-operas/15-16/cosi-fan-tutte