News

Tosca

1st November, 2015

I anrhydeddu pen-blwydd Bryn yn 50 oed, mae Canolfan Mileniwm Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno ar y cyd, perfformiad wedi ei rhannol lwyfannu o Tosca heno yn Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan Mileniwm Cymru gyda Bryn yn serennu yn rhan Scarpia, Pennaeth yr Heddlu (a dyn cas yr opera!). 

Mae'n hynod addas fod y ddau sefydliad yn gyfrifol am yr achlysur gan i Bryn wneud ei ymddangosiad opera cyntaf gydag Opera Cenedlaethol Cymru yn 1990, ac yn 2005 chwaraeodd ran amlwg yn nathliadau agoriadol Canolfan Mileniwm Cymru. 

Bydd cast rhyngwladol yn ymuno â Bryn gan gynnwys y gantores o Sbaen, Ainhoa Arteta yn canu prif ran Floria Tosca, Teodor IIincăi y tenor o Wlad Romania fel yr artist truenus Cavaradossi, y bariton Lukasz Karauda o Wlad Pwyl fel Sciarrone a'r Carcharwr a'r Cymro Alun Rhys Jenkins fel Spoletta. Bydd Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yn cael ei harwain gan Gareth Jones a bydd y Corws yn cynnwys Only Kids Aloud a Chorws Opera Cenedlaethol Cymru.