News

Taflu Golau

3rd November, 2015

Sut oeddech chi'n teimlo y tro cyntaf i chi gamu allan ar y llwyfan?
A dweud y gwir roeddwn i mor ifanc pan ddigwyddodd hyn y tro cyntaf dwi'n cofio dim. Ond, mae mam yn mynnu fy mod i wedi cymryd i'r llwyfan fel hwyaden i ddŵr. Roeddwn yn dair pan wnes i gystadlu am y tro cyntaf, nid yn canu, ond yn adrodd. Roeddwn braidd yn hyderus, efallai yn or-hyderus! Diolch byth doedd y llwyfan ddim yn fy nhrafferthu i hyd yn oed pan oeddwn yn ifanc. 

Pwy gafodd ddylanwad mawr arnoch chi yn eich bywyd proffesiynol?
Geraint Evans y bas-bariton enwog o Gymru. Ffoniodd Syr Geraint George Solti, a oedd yn byw yn Swiss Cottage yn Llundain a gofyn: "Allwch chi os gwelwch yn dda wrando ar y canwr ifanc yma?" Ges i afael ar bianydd ac aethom i gwrdd ag ef.

Rydw i'n cofio yn union beth ganais i'r prynhawn hwnnw - 'Flieder Monolog' o'r Die Meistersinger von Nürnberg a 'Non piu andrai' o Le nozze di Figaro. O'r cyfarfod hwnna cefais ddwy swydd - Antonio, y garddwr, yn Le nozze di Figaro a Der Geisterbote yn Frau Die ohne Schatten yng Ngŵyl y Pasg yn Salzburg. Roedd yn gyfnod hynod ddiddorol ac wrth gwrs fe agorodd ddrysau i mi. Roedd yn bendant yn brynhawn hanfodol. 

Beth fu eich hoff rôl?
Heb os nac oni bai.. Falstaff Verdi. Rydw i'n gobeithio na fyddaf byth yn rhoi'r gorau i ganu honno. 

Pan oeddech yn dechrau eich gyrfa fel canwr opera, a wnaethoch chi erioed ddychmygu y byddai eich celf yn cael ei gydnabod ac y byddech yn derbyn y CBE a Medal y Frenhines am Gerddoriaeth?
Byth! Rwy'n falch iawn o fod wedi derbyn y ddau anrhydedd. Rwyf mor lwcus i fod yn gwneud gwaith rwy'n ei garu ac mae cael gwobr amdano yn fonws anhygoel.

Yn 1996, dechreuoch chi ganu repertoire Wagneraidd am y tro cyntaf. Beth oedd rhai o'ch profiadau wrth wneud y naid i Wagner? Oeddech chi'n ei chael hi'n newid arbennig o anodd yn lleisiol, ar ôl dod o gefndir operatig Mozart a Verdi?
Cefais gynigion gan nifer o dai opera i ganu Wotan a Hans Sachs yn gynnar yn fy ngyrfa ond diolch byth yr oeddwn yn gallu gwrthsefyll y demtasiwn. Rhaid i chi fod yn aeddfed yn lleisiol ac yn gorfforol ar gyfer y rolau hyn. Os nad ydych yn 100% hapus nid oes ffordd y gallwch fynd trwy ddarn fel Die Walküre. Mae’r  hyd ei hunan yn gwneud rôl Hans Sachs yn aruthrol greulon.

Fy rôl Wagneraidd gyntaf oedd Wolfram sydd yn delynegol ac yn llawn o liwiau. Nid yw'n un o'r canu Wagneraidd mawr sy'n gysylltiedig â’r Bas bariton, felly bu’n rôl pontio dda o Mozart. Mae llafariaid yr iaith Gymraeg yn ei gwneud yn haws i mi ganu mewn ieithoedd eraill ac yn ystod fy nyddiau cystadlu pwysleisiodd y beirniaid bob amser pa mor bwysig oedd y geirio er mwyn portreadu teimladau'r bardd i’r gynulleidfa. Mae'n debyg mai dyna'r rheol bwysicaf pan fyddwch chi ar y llwyfan am 5 awr!

Gyda pha gyfansoddwr (marw neu fyw) fyddech chi'n hoffi cael cinio, ac am beth fyddech chi'n sgwrsio?
Verdi, siwr iawn! Byddem yn siarad am basta, gwinoedd coch, Milan ac yna byddwn yn taflu mewn cwestiwn haerllug ynghylch pam nad oedd yn ysgrifennu mwy i'r bas-bariton. Hunanol iawn, dwi'n gwybod, ond ar hyn o bryd, yr unig rannau rwyf wedi eu canu o'i gerddoriaeth yw rolau Ford a Falstaff. Ni allaf byth ganu Trovatore, Traviata, Rigoletto, Boccanegra. Trasiedi!

Sut ydych chi'n paratoi ar gyfer rolau newydd?
Yn ofalus iawn. Mae'n rhaid i mi baratoi fel pe na bawn wedi fy ngeni gyda greddf gerddorol cynhenid. Os byddaf yn canu darn newydd, mae’r tro cyntaf yn iawn, yr ail waith yn well, y trydydd tro yn dda iawn ac wedi’r pedwerydd mi fyddaf yn ei gofio. Mae gen i ddawn fawr i gofio cerddoriaeth.

Dechreuaf gyda darllen sgôr. Yna, yr wyf yn dod i adnabod gweledigaeth y cyfarwyddwr a dehongliad yr arweinydd, ac yna yr wyf yn mowldio  fy hunan i’r hyn y maent ei eisiau. Os byddaf yn mynd i mewn eisoes yn meddwl "Rydw i'n mynd i wneud hyn yn y ffordd yma a dyma'r unig ffordd rydw i'n mynd i wneud" nid yw'n ddechrau da. Fel y dwedais gynt, mi fyddaf yn gwrando ar bobl eraill.

Beth yw'r un gân fyddai'n ymddangos ar drac sain ar eich bywyd?
Un rydw i wedi ei chanu ers pan oeddwn yn saith mlwydd oed, 'My Little Welsh Home'. Mae'r hen air 'hiraeth' yn dweud llawer. Mae perfformwyr teithiol a dynion busnes fel adar eisiau hedfan adref. 

Dychmygwch fod rhaid i chi golli pob sgôr ond un: pa un fyddech chi'n ei gadw a pham
Byddai'n rhaid iddo fod yn ddau - mae gen i sgoriau Rheingold a Walküre a roddwyd i mi gan weddw fy hoff bas-bariton George London.

Ar wahân i gerddoriaeth, beth sy'n eich ysbrydoli, a beth ydych chi'n ei wneud am hwyl neu i ymlacio?
Yr wyf yn ddilynwr ffanatig rygbi Cymru. Mae golff yn obsesiwn! Mae dilyn fy hoff dîm pêl-droed, Manchester United, yn hanfodol. Mae stocio i fyny fy seler win a'i mwynhau nhw wedi dod yn ddefod ac mae cerdded mynyddoedd Cymru hefyd yn fraint. Yn olaf ond nid y lleiaf, mae bod yna ar gyfer fy mhlant yn hollbwysig i mi fedru mwynhau unrhyw un o'r pethau uchod.

Clwb Golff:
Clwb Golff Sunningdale, 45 munud o fy nghartref yn Kensington. 

Siop Gwin:
BerryBros & Rudd yn St James Street - un o fy hoff sefydliadau yn Llundain. 

Theatr Gerdd:
The Book of Mormon. Rwyf wedi ei weld tair gwaith. 

Diod:
Wisgi Penderyn, brand wisgi Cymreig. Hyfryd gydag un bloc o rew. 

Pa waith celf fyddech chi'n hoffi bod yn berchen arno?
Byddwn yn trysori sgôr gwreiddiol, a ysgrifennwyd â llaw o unrhyw waith gan Mozart. 

Yn ffilm eich bywyd, pwy sy'n chwarae chi?
Byddai'n rhaid iddo fod yn Vinnie Jones wedi magu pwysau, neu Gérard Depardieu. Mae pobl wedi fy nghamgymryd am Depardieu ym Mharis, a Meatloaf yn Efrog Newydd!

Beth yw'r cyngor gorau erioed i unrhyw un ei roi i chi?
Tyfwch eich gwallt. Roeddwn yn edrych fel ffarmwr yn gynnar yn fy ngyrfa.

Unrhyw gyngor i gantorion ifanc?
Byddwch yn driw i chi eich hunan. Waeth pa mor ddeniadol, peidiwch â derbyn unrhyw rôl oni bai eich bod yn gant y cant yn siŵr eich bod yn gallu ei chanu.