News

Brwydr Cantorion Cymreig

7th April, 2016

Bydd y mezzo soprano Sioned Gwen Davies a'r tenor Trystan Llŷr Griffiths yn mynd benben yn un o gystadlaethau canu pwysicaf y Wlad, sef y Gystadleuaeth i Gantorion Cymreig 2016. Yn ogystal â gwobr ariannol, bydd y canwr buddugol yn ennill y cyfle digymar i gynrychioli Cymru yng Nghystadleuaeth Canwr Y Byd Caerdydd y BBC yn 2017. 

Bydd Sioned a Trystan hefyd yn cystadlu yn erbyn y mezzo soprano Eirlys Myfanwy Davies, yr uwchdenor Kieron-Connor Valentine a'r tenor Samuel Furness.

Bydd y pum cystadleuydd yn canu i gyfeiliant Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, dan arweiniad Gareth Jones ger bron panel o feirniaid enwog yn cynnwys Sir Thomas Allen, y Fonesig Anne Murray, Ryland Davies, Rebecca Evans a Julian Smith. 

Cynhelir y rownd derfynol yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ar Ddydd Mercher, Mai 25ain am 7:30y.h.