News

Cystadleuydd BBC Canwr y Byd Caerdydd 2017

26th May, 2016

Mae cystadleuydd cyntaf BBC Canwr y Byd Caerdydd 2017 wedi cael ei ddatgelu, yn dilyn rownd derfynol wefreiddiol o'r Gystadleuaeth i Gantorion Cymreig - y gystadleuaeth sy'n dewis yr ymgeisydd Cymraeg ar gyfer y gystadleuaeth ryngwladol hon - yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ar y 26ain.

Mae'n bleser gennym gyhoeddi mai'r fezzo-soprano Sioned Gwen Davies oedd yn fuddugol. 

"It'll be an honour to represent my country at the BBC Cardiff Singer of the World Competition; it feels like a great prize after working so hard throughout my training. This will be a fabulous platform for me and I'll work hard throughout the year to make Wales proud." 

"I'm feeling very overwhelmed with all the wonderful messages I've received congratulating me; everyone's being so kind and supportive. I haven't had much time to let it sink in as I've had to travel straight to Aberdeen to perform The Mikado, where I'm singing the role of Pitti-Sing, but I'm sure everyone at Scottish Opera will help me celebrate after the show."

Sioned fydd y nawfed artist o stabl artistiaid Harlequin i gystadlu yng Nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae Harlequin wedi bod yn llwyddiannus gyda'r gystadleuaeth yn y gorffennol, wedi cynrychioli pedwar canwr yn rownd derfynol y brif wobr, a phedwar enillydd o 'Gwobr y Gan'.

Roedd Sioned, y fezzo-soprano o Fae Colwyn yng Ngogledd Cymru, yn treiddio personoliaeth a hud a rhoddodd berfformiad medrus a phwerus i gyfeiliant Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC o dan arweiniad Gareth Jones. Dechreuodd ei rhaglen gyda pherfformiad talog ac egniol o 'Crude furie degl' orridi abissi', allan o opera Handel, Serse. Dilynwyd hon gan aria deimladwy Charlotte 'Va! Laisse couler mes larmes' o'r opera Werther, gan Massenet. Symudodd wedyn i ddau ddarn gyda'r piano, i gyfeiliant gwych Caradog Williams - aria brydferth Pauline 'Da, vspomnila... Podrugi milie' allan o The Queen of Spades gan Tchaikovsky, a'r gan cabaret gomig 'Amor!' gan y cyfansoddwr Americanaidd Williams Bolcom, mawr i fwynhad y gynulleidfa. Gorffennodd ei rhaglen ar nodyn mawreddog gyda 'O Mio Fernando' allan o La Favorita gan Donizetti. 

Astudiodd Sioned Gwen ar gwrs Opera'r Guildhall School of Music and Drama yn Llundain a chwblhaodd ei hyfforddiant yn y National Opera Studio y llynedd gyda chefnogaeth ariannol hael gan Glyndebourne Festival Opera. Bu Sioned yn 'Emerging Artist' gyda Scottish Opera, a dychwelodd atynt eleni i berfformio rhan Third Nymph yn Rusalka ac ar hyn o bryd mae'n perfformio rhan Pitti-Sing yn The Mikado ar gyfer y cwmni.