News

Gŵyl Gerdd Cheltenham

17th November, 2016

Gŵyl Gerdd Cheltenham (01-16 Gorffennaf 2017)
Mae galw mawr am bresenoldeb carismataidd Bryn Terfel yn Nhai Opera mwyaf blaenllaw'r Byd. Y mae'r un mor rymus mewn datganiadau, yn cyfathrebu â chynulleidfaoedd mewn ffordd uniongyrchol a phersonol. Bydd Bryn yn perfformio mewn datganiad gyda Caradog Williams ar Nos Iau'r 6ed o Orffennaf yn Neuadd Tref Cheltenham. Mi fydd hi'n sicr o fod yn un o berfformiadau mwyaf cofiadwy yn hanes hir yr Ŵyl.

Ewch i wefan Cheltenham Festivals (www.cheltenhamfestivals.com/music) heddiw i greu eich rhestr dymuniadau. Mae'r digwyddiad hwn yn mynd ar werth i Aelodau Wyliau Cheltenham ar ddydd Mercher y 30ain o Dachwedd am 1:00yp gyda thocynnau'n mynd ar werth i'r cyhoedd ar ddydd Gwener yr 2il o Ragfyr am 13:00yp. Swyddfa Docynnau: 01242 850270.