News

Syr Bryn Terfel

7th March, 2017

Mae'r seren opera wedi cael ei urddo'n farchog gan y Frenhines.

Anrhydeddwyd y bas-bariton Cymreig, sy'n adnabyddus am ei bortreadau o Figaro yn The Marriage of Figaro, Mozart a'r rôl deitl yn Falstaff Verdi, yn ystod seremoni arwisgo arbennig ym Mhalas Buckingham ar ddydd Mawrth y seithfed o Fawrth, 2017.

Dywedodd ar ôl y seremoni: "Yn y 15 mlynedd diwethaf rwyf wedi derbyn y CBE, medal y Frenhines am gerddoriaeth (fi oedd yr ail i dderbyn hyn), a nawr dwi'n farchog, sydd yn anhygoel - mae'n dangos pa mor ymroddedig rwyf wedi bod i'r proffesiwn."

Ychwanegodd: "Mae'n fore emosiynol iawn. Gobeithio gallaf ddefnyddio'r fraint yma i fod yn fwy dylanwadol yng Nghymru ac rwy'n edrych ymlaen at y deng mlynedd nesaf."