News

CYHOEDDI'R ARTISTIAID

12th April, 2017

Wedi'i greu yn wreiddiol ar gyfer 'The Art of Bryn Terfel' ym Medi 2013, bydd cynhyrchiad cyngerdd crefftus, pwerus Amy Lane o Tosca, Puccini yn cael ei berfformio yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen ar nos Fawrth y 4ydd o Orffennaf, 2017.

Bydd y sêr opera rhyngwladol Syr Bryn TerfelKristine Opolais a Kristian Benedikt yn rhannu llwyfan am y tro cyntaf erioed yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen eleni, i gyflwyno dehongliad unigryw o stori ddramatig Puccini o gariad, chwant a llofruddiaeth wleidyddol, Tosca

Aelodau talentog Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, dan faton Gareth Jones, fydd yn cyfeilio i'r triawd operatig.

Bydd y bas-bariton Cymraeg Syr Bryn Terfel yn dychwelyd i lwyfan Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen i berfformio rhan Scarpia - sydd ar drywydd Cavaradossi a berfformir gan Kristian Benedikt

Yn rhan Tosca, fe fydd Kristine Opolais yn ychwanegu deinamig unigryw i'r gwaith a fydd o gymorth i greu perfformiad cwbl gofiadwy.

Yn ymuno a'r triawd mae Andri Björn Róbertsson  (Angelotti), Elgan Llŷr Thomas (Spoletta), Romanas Kudriasovas (Sacristan) a Steffan Lloyd Owen (Sciarrone/ Jailer).