News

Syr Bryn yn datgelu deuawdau'r albwm newydd

15th August, 2018

SYR BRYN TERFEL YN DATGELU DEUAWDAU’R ALBWM NEWYDD – ‘DREAMS AND SONGS’

• Y FONESIG EMMA THOMPSON • ROB BRYDON • ALFIE BOE • KATHERINE JENKINS • JOSEPH CALLEJA • DANIELLE DE NIESE •


Dyddiad Rhyddhau’r Albwm: 14 Medi 2018


Y Fonesig Emma Thompson; Rob Brydon; Alfie Boe; Katherine Jenkins; Joseph Calleja a Danielle de Niese sy’n ymuno â Syr Bryn Terfel ar ei albwm newydd ‘Dreams and Songs’, sydd i’w ryddhau ar label Deutsche Grammophon ar 14 Medi 2018.

Mae Syr Bryn yn cael ei ymuno gan ei gyn-gyd-seren, yr actor enwog y Fonesig Emma Thompson ar ‘Do You Love Me’ o Fiddler on the Roof. Dywedodd Syr Bryn, “Daeth Emma mewn i stiwdio Abbey Road diwrnod ar ôl i’w Fonesig cael ei gyhoeddi. Dylai’r siampen wedi bod yn llifo, ond roedd gwaith i’w wneud.”

Y Cymro a’r comedïwr Rob Brydon sy’n ymuno â Bryn ar y ddeuawd ‘The Golfer’s Lament’, stori fywiog ar y ffordd deg. Mae’r prancio byddarol yn dal ei digrifwch yn berffaith a’u cariad tuag at golff. Dywed Brydon, “Roedd yn fraint ac yn anrhydedd canu gyda Syr Bryn, a pha well na chân sy’n dathlu fy niffygion chwaraeon!”

Yn cwblhau’r line-up mae’r tenor Alfie Boe ar ‘Perhaps Love’, y soprano Danielle de Niese ar ‘Amazing Grace’, y tenor Joseph Calleja ar ‘Granada’ a’r soprano Katherine Jenkins ar ‘Tell My Father’ o The Civil War. Mae’r albwm hefyd yn cynnwys recordiad cyntaf o ‘The Shepherd Poet of Passchendaele’, sydd wedi’i hysgrifennu’n benodol i Syr Bryn gan y cyfansoddwr o Benclawdd, Syr Karl Jenkins. Ysbrydolwyd y gân gan stori Hedd Wyn, y bardd o Gymru bu farw ar ddiwrnod cyntaf Brwydr Passchendaele (Trydedd Frwydr Ypres), gyda geiriau hyfryd gwraig Syr Karl – Lady Jenkins, Carol Barratt.

Yn adnabyddus ledled y Byd fel cantor sy’n mynd i’r afael â rolau operatig heriol, mae albwm newydd Syr Bryn – y cyntaf mewn pum mlynedd - yn dangos ei ochr ysgafnach gyda darnau cyngerdd a theatr gerdd boblogaidd, caneuon traddodiadol Cymreig a chaneuon gomedi difyr. Meddai, “Dyma rhai o’m hoff repertoire cyngerdd. Caneuon, deuawdau a rhai encorau comedi dwi wrth ym modd yn ei ganu. Rwy’n ffodus iawn cael rhannu’r albwm newydd hon gydag artistiaid arbennig, ac i recordio yn Stiwdio eiconig Abbey Road – anhygoel.”

Ynghyd â rhyddhau ei albwm newydd, ‘Dreams and Songs’, mae Syr Bryn Terfel yn parhau i berfformio ledled y Byd. Yn dilyn ei berfformiad fel Falstaff yn y Royal Opera House, Covent Garden, agorodd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2018 gyda pherfformiad o sioe gwreiddiol newydd gan Mererid Hopwood a Robat Arwyn – Hwn yw Fy Mrawd - sy’n olrhain hanes yr actor a’r canwr enwog Paul Robeson yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd. Yn hwyrach yn y flwyddyn, mi fydd yn adfywio rhan Sweeney Todd gyda Zürich Opera. Bydd hefyd yn perfformio gyda’r Royal Philharmonic Orchestra yn y Royal Festival Hall ar 05 Hydref ar gyfer cyngerdd arbennig sy’n cynnwys cerddoriaeth gan Verdi, Mozart a mwy.

Gwyliwch Syr Bryn yn cyflwyno ei albwm newydd YMA

‘Dreams and Songs’ – Rhestr Caneuon:



  1. I Believe – Ervin Drake, Irvin Graham, Jimmy Shirl a Al Stillman

  2. The Fields of Athenry – Pete St. John

  3. Perhaps Love (gyda Alfie Boe) – John Denver

  4. If I Were a Rich Man o “Fiddler on the Roof” – Jerry Bock

  5. Do You Love Me o “Fiddler on the Roof” (gyda Emma Thompson) – Jerry Bock

  6. Amazing Grace (gyda Danielle de Niese) – Traddodiadol

  7. The Trees – Oscar Rasbach

  8. Tell My Father from “The Civil War” (gyda Katherine Jenkins) – Frank Wildhorn

  9. The Shepherd Poet Of Passchendaele – Syr Karl Jenkins

  10. The Golf Song / Golfer's Lament (gyda Rob Brydon) – Albert Hay Malotte

  11. Ar Lan Y Môr – Traddodiadol

  12. Granada (gyda Joseph Calleja) – Augustin Lara

  13. Smile – Charlie Chaplin

  14. The Hippopotamus Song – Michael Flanders a Donald Swann