News

STEFFAN LLOYD OWEN YN YMUNO Â HARLEQUIN

9th November, 2018

ARTIST NEWYDD - STEFFAN LLOYD OWEN


Mae'n bleser mawr gan Harlequin i groesawi'r bariton Steffan Lloyd Owen i'n rhestr artistiaid.  

Daw’r bariton Steffan Lloyd Owen o Bentre’ Berw, Ynys Môn. Dechreuodd cael gwersi canu gyda Sian Wyn Gibson ond mae nawr yn cael ei ddysgu gan y Bariton Nicholas Powell. Mae Steffan ar hyn o bryd ar ei drydedd flwyddyn yn y Royal Northern College of Music ym Manceinion yn astudio cwrs y llais. Ar ddiwedd ei flwyddyn gyntaf yn y coleg, enillodd Steffan gystadleuaeth Gwobr Elise Thurston. O ganlyniad, cafodd y cyfle i gynrychioli’r coleg yng ngwobr Kathleen Ferrier yn Blackburn. Enillodd Steffan y wobr, gan guro nifer o unawdwyr eraill o golegau ledled Prydain yn 2015 - yr ail fyfyriwr erioed o’r RNCM i ennill y wobr yma.

Mae Steffan hefyd wedi ennill nifer o wobrwyon canu pwysig yng Nghymru, gan gynnwys yn fwyaf diweddar, Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts 2018 a Gwobr Goffa Osborne Roberts - Y Rhuban Glas 2016, a’r Ysgoloriaeth ar gyfer yr Unawdydd Mwyaf Addawol yn Eisteddfod yr Urdd. Fel rhan o’i wobr gyda’r Ysgoloriaeth Osborne Roberts, perfformiodd Steffan fel unawdydd yng Ngŵyl Cymru Gogledd America yn yr Efrog Newydd yn 2017. Yn 2014, ymwelodd â Phatagonia, lle enillodd y wobr gyntaf yn y brif gystadleuaeth llais unawdol.

Yn 2017, perfformiodd Steffan y rhannau Sciarrone a Jailer mewn cyngerdd wedi ei lled-lwyfannu o  Tosca yn ymyl Syr Bryn Terfel a Kristine Opolais gyda Cherddorfa Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn Eisteddfod Ryngwladol Gerddorol Llangollen. Mae ei rolau eraill yn cynnwys Zaretsky yn Eugene Onegin ac El Dancairo yn Carmen - addasiadau yn yr iaith Gymraeg o’r ddwy opera gan gwmni Opra Cymru, a hefyd George Jones yn Street Scene yn y RNCM. Y tymor hwn, bydd Steffan yn canu rhan y cyfreithiwr Ser Amantio Di Nicolao yn Gianni Schicci yn yr RNCM.

Blwyddyn nesaf, bydd Steffan yn dechrau prosiect Newydd cyffrous gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru (WNO). Comisiynwyd WNO, S4C, a Rondo Media i greu ffilm operatig wreiddiol yn yr iaith Gymraeg i goffáu 100 mlynedd ers marwolaeth y bardd, Hedd Wyn a laddwyd ym Mrwydr Passchendaele yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Steffan fydd yn chwarae’r prif gymeriad 'Hedd Wyn'. Bydd y ffilm yn cael ei darlledu ar S4C, BBC iPlayer ac 20 o sinemâu dros Gymru.  Bydd y brosiect yn gweld cydweithrediad rhwng y cyfansoddwr Prydeinig o fri, Stephen McNeff, y cerddor Gruff Rhys (Super Furry Animals)  a'r Cyfarwyddwr Rhyngwladol,  Marc Evans.