News

JÂMS COLEMAN YN YMUNO Â HARLEQUIN

17th September, 2019

Mae’n bleser o’r mwyaf i gyhoeddi fod y pianydd Cymraeg Jâms Coleman wedi ymuno ân rhestr artistiaid yma yn Harlequin. 


Mae Jâms yn bianydd eithriadol ac amryddawn sy’n mwynhau bywyd cerddorol cyfoethog ac amrywiol yn perfformio fel unawdydd, cerddor siambr a chyfeilydd lleisiol.


Yn tarddu o Ynys Môn, yng Ngogledd Cymru, astudiodd Jâms Gerddoriaeth yng Ngholeg Girton, Caergrawnt, lle y bu hefyd yn Ysgolor Corawl. Yn 2016, cwblhaodd Radd Meistr yn y Royal Academy of Music yn Llundain, ac arhosodd ymlaen yno fel Cymrawd.

Fel unawdydd, mae Jâms wedi perfformio datganiadau a choncerti sy’n cynnwys 3ydd, 4ydd a 5ed concerto Piano Beethoven a Choncerti gan Chopin, Brahms a Mozart.

Fel cyfeilydd lleisiol, mae Jâms yn mwynhau cydweithredu gyda nifer o gantorion ac mae ei ymrwymiadau wedi cynnwys datganiadau gydag artistiaid megis Ailish Tynan, James Gilchrist, Sir John Tomlinson, Robert Murray, Nicholas Mulroy, ac Andrew Kennedy mewn Gwyliau fel y Leeds Lieder a’r Oxford Lieder Festival. Yn ddiweddar, bu’n cyfeilio’r soprano o Awstralia Lauren Fagan yng Ngwobr y Gân, yng Nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae ei uchafbwyntiau diweddar arall yn cynnwys datganiad yn y Wigmore Hall, Llundain a pherfformio tri o gylch caneuon Schubert yn y Two Moors Festival yn Nyfnaint. Bydd yn dychwelyd i’r Wigmore Hall yn fis Tachwedd lle bydd yn perfformio mewn noson i arddangos Artistiaid Samling ynghyd a Nicky Spence, James Newby, Elin Pritchard, Olivia Warburton a Christopher Glynn.

Mae ei ymrwymiadau cerddoriaeth siambr yn cynnwys perfformiadau yn y Deyrnas Unedig ac yn Ewrop gyda’r offerynwyr  Luke Hsu, Clio Gould, Maggie Faultless, Timothy Ridout, Laura van der Heijden, Jamal Aliyev, Joy Lisney a Marcin Zdunik. Mae e wedi perfformio‘n fyw ar BBC Radio 3, BBC World Service, BBC 2 Proms Extra, BBC Radio Cymru ac S4C.Yr wythnos hon, mae Jâms wedi ei ymrwymo yng Ngŵyl Gerdd y Bontfaen 2019 ar gyfer eu Wythnos Cerddoriaeth Siambr, sy’n dod â deg cerddor siambr eithriadol at ei gilydd o bob rhan o’r Deyrnas Unedig ar gyfer wythnos o ymarferion dwys a chyngherddau yn y Bont-faen. Eleni bydd y cerddorion yn mynd o dan groen rhaglen amrywiol o gerddoriaeth siambr i linynnau a phiano. Ar ddydd Iau yr wythnos hon, 19 Medi, bydd Jâms yn perfformio yn y Piano Trio yn D Fwyaf, Op 70, rhif 1, “Ghost” gan Beethoven yn y gyngerdd  ‘Ar Lannau Afon Danube” ac ar nos Wener yr 20fed, mewn dathliad o Clara Schumann, bydd yn perfformio yn  y Triawd Piano, Op. 17 gan Clara Schumann ei hun a’r Pumawd Piano  Op. 44 gan ei gwr, Robert Schumann.

Am fanylion pellach a thocynnau ar gyfer cyngherddau'r Bontfaen, cliciwch yma :-    Tocynnau:

Am fanylion pellach amdan argaeledd a repertoire Jâms, cysylltwch â :sioned.jones@harlequin-agency.co.uk