News

ENILLYDD BATH OPERA ISOBEL BUCHANAN AWARD 2019

12th November, 2019

Mae'r uwchdenor Cymraeg Kieron-Connor Valentine wedi ennill Gwobr Bath Opera Isobel Buchanan Award 2019, a gynhaliwyd yn Neuadd Michael Tippett, Prifysgol Caerfaddon ar 7 Tachwedd. Cyhoeddwyd y canlyniad ar ôl trafodaethau dwys rhwng y 3 beirniad, Isobel Buchanan, Dr Charles Wiffen a Morag McLaren.
Wrth gyhoeddi'r canlyniad, dywedodd Isobel Buchanan fod safon y cystadleuwyr eleni, yn enwedig y 6 yn y rownd derfynol, yn ffantastig.



  Kieron a therfynwyr Gwobr BOIBA 2019, wedi eu ffotograffu uchod gydag Isobel Buchanan. 
Ar hyn o bryd, mae Kieron-Connor Valentine yn astudio ar gwrs M.Mus yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yng Nghaerdydd, ac yntau eisoes wedi graddio o'r Royal Northern College of Music and Drama ym Manceinion. Mae e hefyd yn dirprwyo rhan Mago Cristiano (Dewin Cristnogol) yn opera Handel Rinaldo ar gyfer Glyndebourne Touring Opera'r Hydref hwn.