News

Trystan yn rhyddhau Sengl Nadolig Newydd

6th December, 2019

Mae'r tenor Cymraeg Trystan Llŷr Griffiths wedi rhyddhau sengl newydd sbon "Nadolig o'r Newydd". Gyda'i nodau disglair a phersonoliaeth ddengar, mae galw mawr am Trystan fel unawdydd cyngerdd ac mae hefyd yn gwneud ei farc ar y llwyfan operatig rhyngwladol, ac wedi gweithio gydag Opéra National de Lorraine, Opera Zürich, Scottish Opera, Opera North a Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru. Fodd bynnag, cafodd y sengl hon ei ysbrydoli gan ei rôl diweddara - fel tad newydd, ers genedigaeth ei ferch fach Efa Lois blwyddyn yn ôl. 

Ers iddi hi gael ei geni, mae’r Nadolig wedi dod tipyn yn fwy sbesial i’r tenor fel tad newydd ac felly gofynnodd i ddau ffrind talentog fynd ati i greu cân Nadolig yn arbennig i Efa fach. Y cyfansoddwr yw’r cerddor a'r cyfansoddwr dawnus Caradog Williams, ac mae’r geiriau gan y prifardd Ceri Wyn Jones.


Mae’r gân yn sôn am sut mae dyfodiad baban newydd i’r tŷ yn gwneud i ni’r oedolion ail edrych ar y Nadolig o’r newydd a sylweddoli beth yw gwir ystyr yr Ŵyl.


Recordiwyd y gân yn Stiwdio Acapela, Pentyrch, Caerdydd gan Hywel Wigley gyda Caradog Williams ar y piano a Rhys Taylor ar y sacsoffon.   


Mae'r gân hyfryd hon ar gael i’w lawr lwytho’n ddigidol o wefan SAIN yma SAIN a hefyd i'w ffrydio o wefan Apton yma APTON


Am wybodaeth bellach am repertoire ac argaeledd Trystan, cysylltwch â sioned.jones@harlequin-agency.co.uk