News

Adam Gilbert, Tenor yn ymuno ag Opera Cenedlaethol Cymru fel Artist Cyswllt

25th November, 2020

Wrth i ni dynnu tuag at ddiwedd blwyddyn sydd wedi bod yn anodd iawn ledled y byd ac wedi gweld perfformiadau cerddoriaeth fyw yn dod i stop o ganlyniad pandemig Covid-19, rydyn ni wrth ein boddau i rannu rhywfaint o newyddion da a gobaith wrth i ni edrych ymlaen.

I nodi 75 mlynedd ers Opera Cenedlaethol Cymru, mae’r cwmni yn lansio Cynllun Artistiaid Cyswllt newydd fel rhan o’u hymdrechion i ddatblygu talent ifanc.

Mae'r cwmni'n ffurfioli’r Cynllun Artistiaid Cyswllt  ar gyfer cantorion am y tro cyntaf mewn saith mlynedd diolch i gyllid newydd gael ei sicrhau. Yn dilyn rhaglen glyweliadau dwys gan y cwmni mewn pum dinas ledled y wlad cyn pandemig Covid, rydym wrth ein bodd bod Adam wedi'i ddewis yn un o'r cantorion llwyddiannus i ymuno â'r cwmni yng Nghaerdydd ar gyfer hyfforddiant blwyddyn o hyd. Er nad yw'r cynlluniau gwreiddiol ar gyfer yr artistiaid cyswllt newydd, yn anffodus, wedi gallu cael eu cyflawni hyd yma oherwydd cyfyngiadau Covid, gobeithiwn y bydd dychwelyd yn raddol i normalrwydd y flwyddyn nesaf yn caniatáu i Adam fynd i'r afael ag amrywiaeth o rolau, dirprwy rolau, cyngherddau a chael manteisio ar flwyddyn hyfforddiant dwys gan y Cwmni Opera o fri rhyngwladol. Bydd hefyd yn cael ei fentora gan Lysgennad y rhaglen, y soprano Rebecca Evans, a bydd y rhaglen yn cael ei monitro a’i chefnogi gan Bennaeth Rheolaeth Artistig a Phennaeth Cerddoriaeth y cwmni.

Mae'r newyddion hyn yn arbennig o gyffrous i Adam gan mai dim ond yn gymharol ddiweddar y symudodd i fyny i’r repertoire tenor. Treuliodd Adam 10 mlynedd fel bariton, gan astudio yn Ysgol Gerdd a Drama Guildhall a’r Stiwdio Opera Genedlaethol yn Llundain, gan weithio wedi hynny gyda chwmnïau enwog ledled Prydain ac Ewrop cyn taro’r nodau uchel a symud i fyny i repertoire tenor. Yn dilyn ei symud i lais tenor mae eisoes wedi perfformio rôl Florestan yn yr opera Fidelio gan Beethoven a bu’n cymryd rhan fel Unawdydd Tenor gyda Sgwad Opera Opera Cenedlaethol Lloegr yn 2019. Mae Adam, sy'n byw yng Nghenarth, Gorllewin Cymru, hefyd yn athro canu i fyfyrwyr lleol, corau ac ar gyfer grŵp theatr leol, Dynamix Performing Arts.

“Rwy’n wirioneddol falch o ddod yn Artist Cyswllt. Mae’n freuddwyd i mi gael ymuno â’r cwmni, nid yn unig gan eu bod yn gwmni anhygoel ond hefyd gan mai dyma ein cwmni cenedlaethol, sy’n lleol i mi. Teimlaf gysylltiad go iawn gyda’r cwmni a fedrai ddim aros i ddechrau gyda nhw. “