News

Pwy Yw'r Ferch Yna?

22nd February, 2015

Mae’r Mezzo Soprano Anna Burford yn dychwelyd i’r Royal Opera House i ganu rhan Girl yng nghynyrchiad  newydd John Fulljames  o Rise and Fall of the City of Mahagonny - dychan operatig angerddol ar brynwriaeth. Mae’r cynhyrchiad yn agor ar ddydd Mawrth y 10fed o Fawrth am 19:30 gyda pherfformiadau yn dilyn ar Fawrth 12, 14, 24, 28 ac Ebrill 1, 4. Bydd yr opera yn cael ei dangos yn fyw mewn sinemau ledled y wlad ar Ebrill y 1af am 19.15 a’i darlledu’n fyw ar 14 o Fawrth am 19:20 ar BBC Radio 3.