News

Sweeney Todd

27th March, 2015

Mae’r gantores boblogaidd, Shân Cothi, wedi cael ei denu yn ôl i’r West End y mis yma i ddirprwyo’r actores Emma Thompson, enillydd Oscar, yn rhan y wraig Cockney amrwd a chynllwyngar, Mrs Lovett, yn nghynhyrchiad English National Opera o Sweeney Todd: The Demon Barber of Fleet Street sydd wedi ei led-lwyfannu. Gwnaeth Shân ei debut yn rhan Mrs Lovett y llynedd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen gyda Bryn Terfel yn y Brif Ran.

“Roedd gwneud Mrs Lovett yn Llangollen yn gyflwyniad gwych i'r genre yma.  Mae pobl yn gofyn imi'n aml os mai Opera neu Theatr Gerdd yw Sweeney, ond dwi'n credu ei fod yn fwy o ddrama. Mae'n stori afaelgar ac mae'r gerddoriaeth yn glyfar. Mae yna rhythm a deinamig penodol i bob gair. Does yna ddim darnau hawdd, dim ail-adrodd, ac yn bendant dyw e ddim ynamlwg beth sy'n dod nesaf. Mae'n  ffordd dda o ymestyn yr ymenydd!”

“Feddylies i rioed y cawn i'r cyfle i berfformio'r fath ran. Doedd gen i ddim répétiteur pan ddysgais i'r rhan am y tro cyntaf, fel y byddai gan rhywun gydag opera, felly roedd yn dipyn o her i mi. Roeddwn yn ymwybodol y byddai'r gynulleidfa yn llawn o bobl oedd yn adnabod gwaith Stephen Sondheim yn drwyadl, felly roedd y disgwyliadau'n uchel.  Mae'n wych i gael y cyfle i chwilio'i chymeriad yn ddyfnach gyda'r ENO.”

Bu Shân yn ddigon ffodus i wneud rhai o'r ymarferiadau ar gyfer y cynhyrchiad tra roedd Emma i ffwrdd yn ffilmio.

“Mae Lonny Price, y cyfarwyddwr, wedi fy ysbrydoli. Rwyf wedi meddwl cryn dipyn am sut yr wyf am gyflwyno'r hen bishyn fras gynllwyngar aeddfed yma i'r gynulleidfa.  Mae 'na berfformwyr aruthrol wedi chwarae'r rhan, pobl fel Angela Lansbury, y Mrs Lovett gwreiddiol, ac wrth gwrs Emma, a gafodd gymaint o ganmoliaeth yn Efrog Newydd y llynedd.  Er nad wy'n fwriadol wedi rhoi rhan o'm hunan yn y cymeriad, mae rhai o'm hystumiau naturiol wedi dod drwodd – chwerthiniad, cerddediad, a sbarc. Rhywbeth ar y cyd rhwng Shân a Mrs. Lovett yw e yn y diwedd.“

“Mae’n anrhydedd i ddirprwyo i Emma Thompson ac mae'n ychwanegiad at y rhestr o brofiadau sy'n fy ysbrydoli.  Pan chi'n ifanc, chi am wneud popeth, ond wrth aeddfedu, chi'n sylweddoli mai safon y gwaith sy'n cyfrif, gweithio gyda'r gorau a gwneud eich gorau. Rwyf am fod y gorau galla i fod.”

Mae gan Shân amser prysur o'i blaen.  Ar ôl gorffen gyda'r ENO mae'n mynd i'r stiwdio i orffen ei albwm newydd fydd ar gael yn yr Hydref.  Bydd wedyn yn mynd ar daith o gwmpas eglwysi yng Nghymru i hyrwyddo'r albwm.

Bydd Bryn Terfel, Emma Thompson a John Owen-Jones yn ymddangos yn Sweeney Todd: The Demon Barber of Fleet Street yn y Coliseum, Llundain o ddydd llun Mawrth 30ain tan Ebrill  12fed.